Menai View

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:00, 11 Ionawr 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Menai View yw'r enw modern ar y casgliad o dai ar y briffordd rhwng trofa Dinas a throfa Glan-rhyd, er bod tuedd i alw'r ardal hon yn Dinas hefyd. Yma yr oedd siop fwyd (Dinas Stores), adeilad gweddol newydd sydd bellach yn dŷ annedd. Cynt bu'n siop "gweinwch chi" (a gedwid gan Sais o'r enw Mr Robinson), a hefyd bu yno siop cigydd Dafydd Williams (er mai gwerthu o fan oedd Dafydd Williams yn bennaf).

Gyferbyn â'r rhain roedd Garej Dinas, sefydliad sylweddol a werthai betrol a cheir newydd yn ogystal â thrwsio ceir. Ar safle Garej Dinas heddiw mae Siop Dillad Awyr Agored Millets (Gelert gynt). Yno hefyd mae warws yn gwerthu offer ar gyfer pobl ag anabledd, garej ceir ail law a modurdy Slaters, sydd yn gwerthu ceir Vauxhall newydd.

Hefyd tan yn ddiweddar roedd Tafarn y Mount Pleasant yno a drowyd yn fwyty Bengali, Yr Arman, am rai blynyddoedd cyn i'r adeilad gael ei ddymchwel.

Ni arddelai neb enw Cymraeg ar y llecyn. Mae'n debyg fod yr enw wedi cychwyn fel enw ar y tŷ bach a siop cigydd ar gornel cyffordd lôn Rhos-isaf, sydd (heblaw am y Mount Pleasant gynt) yr adeilad hynaf yr ochr honno i'r lôn, ar adeg cyn codi tai a modurdy dros y ffordd. Y pryd hynny, ceid golygfa dda o geg y Fenai oddi yno.