William Roberts (Gwilym Glasgoed)
Roedd William Roberts yn Rheithor plwyf Llanaelhaearn o 13 Rhagfyr, 1954 hyd 30 Medi, 1974.
Brodor o Benisa'rwaun. Graddiodd yn B.A. ym Mhrifysgol Cymru (Bangor) ym 1939, ac yna bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Llanbedr Pont Steffan. Fe'i ordeiniwyd yn ddiacon ym 1941 ac yn offeiriad ym 1942.
1941-44 : Curad Llanwnda gyda Llanfaglan
1944-48 : Curad Blaenau Ffestiniog
1948-54 : Rheithor Llanddona gyda Llaniestyn a chapel preifat Wern yr Wylan
1954-74 : Rheithor Llanaelhaearn
Ymddeolodd ym 1974 ac aeth i fyw i Derlwyn, Trefor
Roedd William Roberts hefyd yn barddoni'n gyson a bu'n cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol fwy nag unwaith e.e. Emyn Priodas yn Eisteddfod y Barri 1968.
Ei enw barddol oedd Gwilym Glasgoed.
Ni ddylid ei gymysgu efo'r Parch. William Roberts, Bwlan, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac un o fyfyrwyr olaf Ysgol Ragbaratoawl Clynnog.