Ysgol Gynradd Bro Llifon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:08, 15 Chwefror 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sefydlwyd Ysgol Bro Lleu yn 2017 ym mhentref Y Groeslon i gymryd lle Ysgol Carmel, Ysgol Bron-y-foel yn Y Fron, ac Ysgol Y Groeslon. Roedd adeilad (cymharol ddiweddar) Ysgol Y Groeslon wedi cyrraedd diwedd ei oes ac roedd rheidrwydd ar Gyngor Gwynedd i godi ysgol newydd ond, oherwydd polisïau Cynulliad Cymru ar y pryd, nid oedd arian ar gael oni bai bod y Cyngor yn crynhoi darpariaeth addysg yn y fro, ac yn cau ysgolion bach lle roedd gormod o leoedd gweigion.

Yn naturiol, nid oedd hyn yn dderbyniol gan drigolion Carmel a'r Fron a chafwyd llawer o wrthwynebiad. Fodd bynnag, caewyd y ddwy ysgol leiaf yn llwyr - ac Ysgol Y Groeslon hefyd mewn enw - gan ddarparu adeilad sylweddol modern gyda'r adnoddau gorau ar safle'r hen ysgol. Eironig braidd oedd y ffaith y bu'n bosib ymgorffori'r adeilad hynaf ar y safle, sef hen ysgol fach y babanod, fel rhan o'r adeilad newydd.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau