Gorsaf reilffordd Salem

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:56, 23 Tachwedd 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mewn gwirionedd arosfan heb gyfleusterau oedd gorsaf Salem ar lan orllewinol yr Afon Gwyrfai, ac felly ym mhlwyf Llanwnda hyd 1888. Safai gyferbyn â chapel Salem a chasgliad o dai yr ochr arall i'r afon Gwyrfai, rhwng gorsaf Betws Garmon ac arosfan Plas-y-Nant, rhyw 6 milltir o orsaf Dinas.

Codwyd yr orsaf (sef platfform a chysgodfan amrwd) gan gwmni Rheilffordd Ucheldir Cymru a hynny mor hwyr â 21 Gorffennaf 1922. Nid oedd unrhyw gyfleusterau nwyddau, a rhaid oedd i ddarpar deithwyr gyrraedd yr arosfan dros bont ar draws yr Afon Gwyrfai. Daeth gwasanaethau i deithwyr i ben ym 1937.

Ffynonellau

J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in South Caernarvonshire, Cyf. 1, (Oakwood Press) 1988, t.194, 197