Capel Bwlchderwin (MC)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:27, 8 Rhagfyr 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Capel Bwlchderwin yn gapel a oedd yn eiddo i'r Methodistiaid Calfinaidd. Fe wasanaethai'r gymuned wasgaredig yng nghylch Bwlchderwin. Er mai yn Uwchgwyrfai ydoedd, roedd y capel yn rhan o Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd, fel Capel Libanus (MC), Pant-glas.

Fe'i sefydlwyd yn hanner cyntaf y 19g, ac yn yr Adroddiad ar Addysg yng Nghymru (1847), nodir fod ysgol Sul yn cael ei chynnal yno, gyda 26 o ddisgyblion dan 15 oed a 25 o oedolion yn ei mynychu.[1]

Yn ogystal ag ysgol Sul, bu'r capel yn cynnal Cymdeithas Ddiwylliadol Glannau Dwyfach, gyda Chylchwyl Lenyddol a Cherddorol flynyddol rhwng, o leiaf, 1894 a 1962.[2]

Pan gaewyd y capel rywbryd ar ôl 1982, fe drosglwyddwyd y cofnodion i'r Archifdy yng Nghaernarfon, ac er nad ydynt yn adlewyrchu blynyddoedd cynnar yr achos, maent yn llawn o fanylion o'r 1880au ymlaen.

Mae'r capel yn dal i sefyll, er iddo gael ei gau tua throad y ganrif. Mae'r tŷ capel bellach yn fwythyn haf.

Cyfeiriadau

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

  1. Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales Atodiad i Gyf.III (Llundain,1847), tt.274-282
  2. Archifdy Caernarfon, XM6993/48-52