Capel Bwlchderwin (MC)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:55, 12 Tachwedd 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Capel Bwlchderwin yn gapel oedd yn eiddo i'r Methodistiaid Calfinaidd. Fe wasanaethai'r gtymuned wasgaredig yng nghylch Bwlchderwin. Er iddo fod yn Uwchgwyrfai, roedd y capel yn rhan o Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd, fel Capel Libanus (MC), Pant-glas.

Fe'i sefydlwyd yn hanner cyntaf y 19g, ac yn yr Adroddiad ar Addysg yng Nghymru (1847), nodir fod ysgol Sul yn cael ei chynnal yno, gyda 26 0 ddisgyblion dan 15 oed a 25 o oedolion yn ei mynychu.[1]

Yn ogystal ag ysgol Sul, bu'r capel yn cynnal Cymdeithas Ddiwylliadol Glannau Dwyfach, gyda Chylchwyl Lenyddol a Cherddorol flynyddol rhwng, o leiaf, 1894 a 1962.[2]

Pan gaewyd y capel rywbryd ar ol 1982, fe drosglwyddwyd y cofnodion i'r Archifdy yng Nghaernarfon, ac er nad ydynt yn adlewyrchu blynyddoedd cynnar yr achos, maent yn llawn o fanylion o'r 1880au ymlaen.

Mae o'n dal i sefyll, er iddo gael ei gau tua throad y ganrif. Mae'r tŷ capel bellach yn fwythyn haf.

Cyfeiriadau

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

  1. Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales Atodiad i Gyf.III (Llundain,1847), tt.274-282
  2. Archifdy Caernarfon, XM6993/48-52