Capel Bwlchderwin (MC)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:57, 12 Tachwedd 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Capel Bwlchderwin yn gapel oedd yn eiddo i'r Methodistiaid Calfinaidd. Fe wasanaethai'r gtymuned wasgaredig yng nghylch Bwlchderwin. Er iddo fod yn Uwchgwyrfai, roedd y capel yn rhan o Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd, fel Capel Libanus (MC), Pant-glas.

Fe'i sefydlwyd yn hanner cyntaf y 19g, ac yn yr Adroddiad ar Addysg yng Nghymru (1847), nodir fod ysgol Sul yn cael ei chynnal yno. Pan gaewyd y capel, trosglwyddwyd y cofnodion i'r Archifdy yng Nghaernarfon, ac er nad ydynt yn adlewyrchu blynyddoedd cynnar yr achos, maent yn llawn o fanylion o'r 1880au ymlaen.

Mae o'n dal i sefyll, er iddo gael ei gau tua throad y ganrif. Mae'r tŷ capel bellach yn fwythyn haf.

Cyfeiriadau

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma