Capel Uchaf (MC), Clynnog Fawr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:28, 23 Mawrth 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Mae Capel Uchaf, capel y Methodistiaid Calfinaidd tua milltir o bentref Clynnog Fawr ar hyd lôn Pant-glas wedi ei ddymchwel erbyn hyn, ond bu'n nodwedd amlwg o'r ardal am gant a hanner o flynyddoedd, gan roi ei enw i'r pentrefan a dyfodd o'i gwmpas, sef Capel Uchaf.

Yn y lle cyntaf, pan godwyd y capel tua 1761, arferid galw'r capel yn "Tŷ Newydd", ond yn y man daeth i'w adnabod yn syml fel "Capel" neu "Y Capel". Pan agorwyd Capel Brynaerau (MC), hefyd ym mhlwyf Clynnog Fawr, dechreuodd yr arfer o alw'r gapel yn "Capel Uchaf".[1]

Bu Richard Roberts, (1762-1802) ymysg gweinidogion cynnar Capel Uchaf.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.21