Gwenno Hywyn
Roedd Gwenno Hywyn (ganed Gwenno Lloyd Price) (1949-1991) yn awdures boblogaidd yn bennaf ym maes llenyddiaeth i blant. Ymysg ei gwaith mae Tydy Bywyd yn Boen a droswyd yn gyfres deledu. Cafodd ei magu'n ferch y mans yn Llundain nes iddi fod yn 13 oed. Â'i theulu'n hanu o bentref Pen-y-groes, ar ol graddio ym Mangor a dysgu mewn ambell i fan, setlodd gyda'i gŵr, John Hywyn, yn Nhŷ'n y Maes, Llanwnda.[1]
Mae cofeb wedi ei godi iddi ger adeiladau Parc Glynllifon.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma