Teulu Cwellyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:21, 5 Mehefin 2019 gan 92.3.7.102 (sgwrs)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Teulu Cwellyn wedi mabwysiadu eu cyfenw oddi wrth eu cartref, sef plasty bach Cwellyn - un o'r ychydig deuluoedd yn Uwchgwyrfai i wneud hyn (ar wahân i deulu'r Glynniaid, Glynllifon). Arferid sillafu'r cyfenw yn Quellyn.

Roedd y teulu'n disgynyddion honedig Cilmin Droed-ddu, fel Teulu Glynllifon, trwy Gruffydd ap Tudur Goch ap Grono ab Eibion ab Ifan ab Iorwerth Goch ab Ystrwyth ab Ednowain. Roedd Gruffydd yn frawd hŷn Hwlcyn Llwyd, sylfaenydd tras Glynllifon. Bu i or-or-ŵyr Gruffydd, William Williams briodi Jane, cyd-aeres William Peak o Gaernarfon tua 1610-20. Eu mab nhw, Morgan Williams, a fabwysiadodd y cyfenw Quellyn; fe briododd ag Elen Griffith Wynn, Glan'rafon Bach, rywbryd cyn 1647. Mewn llythyr a anfonodd Elen at ei gefnder, Maurice Williams, Hafodgaregog, dywedir fod William Quellyn wedi benthyg arian ym 1665 trwy forgeisio ei dir yn Nanmor, sef Hafod Gau a Choed Mab Ednyfed gan Maurice Williams - tybed ai dyma arwydd fod y teulu eisoes â phroblemau ariannol.[1]

Mab Morgan oedd Ellis Quellyn (bu farw 1719) a briododd Grace, merch Hugh Wynn, Pengwern, Llanwnda. Cafodd y rhain nifer o blant, sef Hugh (1670-1749), William a Margaret.

Dichon bod Hugh Quellyn yn arfer barddoni, ac mae darn o'i waith wedi goroesi sydd yn canmol brenhiniaeth Syr Robert Owen yn ystod y 1690au.[2]

Plant Hugh, a'i wraig Ann Williams, merch rheithor Llandwrog, (1678-1730) oedd William (1699-1725) a fynychodd Coleg Sant Ioan, Caergrawnt (ac mae hyn yn dangos cyfoeth cymharol y teulu), Jane (marw 1703), Philip (1704-1782) a briododd Mary Stodart o Ddeganwy, a Mary (1714-1789) a briododd Rice Williams, rheithor Llandwrog.

Mae Hugh ac Ann ei wraig, ynghyd â'u mab Philip a'i ferch yntau, Catherine, yn cael eu coffáu ar gofebion ar waliau Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda; ac mae carreg fedd Ellis Quellyn ar lawr yr eglwys.[3] Er bod Cwellyn mor bell o'r eglwys - tua chwech neu saith milltir - gan fod y tŷ ym mhlwyf Llanwnda, yn y fan honno y cleddid y teulu, er bod eglwysi Betws Garmon a Beddgelert yn nes o dipyn.

Priododd William, ail fab Ellis Quellyn, â Jonet Williams, o Laniestyn ym Mhen Llŷn ym 1695.[4] Cawsant ddwy ferch, un Grace a aeth, mae'n debyg i Lundain: cofnodir priodas James Williams, gŵr di-briod a Grace Quellyn, gwraig ddi-briod, y ddau o blwyf St Clement Danes, San Steffan, Llundain yn eglwys y plwyf yno, 2 Chwefror 1745.[5] Nodir fod gan William ddwy ferch, ond yn ei ewyllys (1719), enwir dim ond Grace gan Ellis Quellyn gan ei fod (meddai) wedi anghofio enw'r llall![6]

O'r plant hyn o'r ddwy briodas, hyd y gwyddys, dim ond Philip oedd â phlentyn, sef merch, Catherine, a fu farw yn 7 mis oed ym 1746.[7]

Er bod Ellis Quellyn yn galw ei hun yn fonheddwr ("Gent."), dim ond rhyw £15 oedd ei werth o wedi iddo farw yn ôl rhestr o'i holl eiddo. Mae'n ddiddorol i nodi hefyd mai ffermio Cwm Bychan ym mhlwyf Llanwnda oedd o, er nad oedd ganddo ond dwy fuwch, dau lo a chaseg yno - er rhaid cofio ei fod yn bur hen yn marw. Mae'n bur debyg fod Hugh ei fab wedi symud i fewn i fferm fwy llewyrchus Cwellyn ei hun.

Erbyn i Philip farw ym 1782, roedd wedi symud i dref Caernarfon lle 'roedd wedi prynu eiddo yn Stryd y Farchnad a thir arall gerllaw'r dref - yn bosibl iawn, tir lle codwyd y tŷ o'r enw Cwellyn.[8] Erbyn 1792, roedd teulu o iwmyn, Jonesiaid, wedi cymryd y fferm drosodd yn yn ffermio'n lewyrchus iawn, gyda 100 o ddefaid a 40 o wartheg.[9]

Mae'n bosibl iawn fod y cyfenw bellach wedi diflannu, yn ôl tystiolaeth gwefan achyddiaeth Find My Past, lle nad oes ond un farwolaeth wedi ei chofnodi ers canrif a mwy, sef Susanna Quellyn o Fanceinion ym 1995.[10] Mae cwmni o werthwyr gwin o Gaer gyda'r enw Quellyn Roberts sy'n dal i fod. Ceir cofnod yn Archifdy Swydd Gaer am forgais a wnaed gan Thomas Quellyn Roberts ym 1877.[11]


Cyfeiriadau

  1. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llsgau Hafod a Garegog 330.
  2. Llyfrgell Gendlaethol Cymru, Cofnodion Ystâd a Theulu Brogyntyn PQH1/2.
  3. Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’ Cyf II (Llundain, 1960), t.220
  4. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llaniestyn
  5. Cofrestr Plwyf St Clement Danes, 1745.
  6. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Bangor, B/1719/63.
  7. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), tt.229, 361.
  8. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Bangor, B/1782/118.
  9. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Bangor, B/1792/86
  10. Gwefan Find My Past, cyrchwyd 3.6.2019, [1]
  11. Archifdy Swydd Gaer, ZC21C/28.