Capel Libanus (A), Y Bontnewydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:12, 30 Mai 2019 gan 92.3.7.102 (sgwrs)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Capel Libanus, un o gapeli Annibynwyr y fro, oedd y capel olaf yn Y Bontnewydd i gau, yn 2015.[1] Fe'i roddwyd ar werth yn gynnar yn 2018. Mae'r adeilad yn sefyll ger Cartref Bontnewydd, ar ochr y lôn gul sy'n arwain i gyfeiriad y mynydd, rhyw ganllath o'r briffordd.

Bu achos yn y Bontnewydd mor gynnar â 1825, ar ôl i gyfarfodydd pregethu gychwyn tua 1820 gan un W. Jones, Caernarfon (a aeth wedyn i Amlwch). Rhoddwyd tir i godi'r capel cyntaf gan H. Evans, Henblas, Môn, ac fe'i agorwyd 27 Mawrth 1826, gyda'r enw Bethsaida. Araf oedd yr achos i ddenu aelodau er bod llawer yn gwrando ar y pregethau a gynhelid ar bnawniau Sul. Ar ôl cynnal cysylltiad â chapel yr Annibynwyr a'i weinidog yng Nghaernarfon am flynyddoedd, newidwyd ym 1860 i rannu cyfrifoldebau â Chapel Saron (A). Aeth yr adeilad gwreiddiol yn annigonol a gwael ag agorwyd capel newydd, sef yr adeilad presennol, ar safle amgenach 17 Mawrth 1868. Costiodd y tir a'r gwaith adeiladu gyda'i gilydd yn £1100.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Robert Wyn, "Colofn Hanes", Lleu rhif 506, Ebrill 2019.
  2. T. Rees a J. Thomas, Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, Cyf. 3, (Lerpwl, 1873), tt.248-9