Afon Gwyrfai
Un o'r prif afonydd sy'n rhedeg drwy ardal Uwchgwyrfai yw Afon Gwyrfai. Mae'n ffurfio ffin ogledd-ddwyreiniol i'r cwmwd.
Credir i'r afon darddu o Lyn y Gadair ger Drws-y-Coed, ac mae'n rhedeg i lawr drwy rhan enfawr o Eryri ac yn llifo i'r môr yn y Foryd ger Llanfaglan.[1]. Ar hen fapiau, gelwir yr afon uwchben Llyn Cwellyn yn Afon Cwellyn.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Erthygl am y lle hwn ar Wicipedia
- ↑ Archifdy Caernarfon, XPlansB/76