Pont Cwellyn
Mae Pont Cwellyn bresennol yn bont ar ffurf sarn gyda thri bwa dros hyd o 77 llath, ger ffermydd Cwellyn a Phlanwydd. Mae'n sefyll ar yr hen ffin rhwng plwyfi Llanwnda, Beddgelert a Betws Garmon lle mae afonydd Bron-y-fedw ac Afon Gwyrfai yn llifo i mewn i ben uchaf Llyn Cwellyn, ar y briffordd o Gaernarfon i Feddgelert (yr A4085 bresennol). Cafodd ei thrwsio a'i gwella ym 1829-30 gan y contractwyr Lewis Williams a John Parry, seiri maen. Roedd y gwaith yn cynnwys sythu darn o'r ffordd fel y byddai'r ddwy afon yn llifo o dan y bont. Ar fapiau Ordnans, fe roddir yr enw Pont Glan-yr-afon neu Bont Cwellyn Rhif 2 i'r bont dros Afon Bron-y-fedw a Phont Cwellyn Rhif 1 i'r darn o'r bont sy'n croesi'r Afon Cwellyn neu Wyrfai. Dim ond un dalcen i Bont Gwyrfai 1 o'r holl adeiladwaith sydd yn Uwchgwyrfai.[1]
Roedd y bont oedd yno'n wreiddiol ond yn croesi Afon Cwellyn, gan adael yr afon arall (mae'n debyg) i beri achos llifogydd ar adegau o storm. Fer ymddengys iddi gael ei chodi neu ei hailgodi tua 1800 (a barnu oddi wrth arddull y planiau a'r ysgrifen ar y dogfennau sydd ar gael). Yr adeiladydd y pryd hynny oedd Lewis Ellis a'i bartneriaid i ddyluniad John Hughes, saer melinau. Y gost y pryd hynny, mae'n ymddangos, oedd £251,12.0c.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma