Cae'r Gors

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:54, 15 Ebrill 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Cae'r Gors ynhen dyddyn yn Rhosgadfan a fu'n gartref plentyndod i Dr. Kate Roberts. Saif ar y ffordd o ben Allt Pen Gwrli i'r groesffordd ger hen gapel. Mae caeau Cae'r Gors erbyn hyn yn cael eu defnyddio fel meysydd Clwb Pêl-droed Mountain Rangers.

Erbyn yr 1980au, roedd Cae'r Gors yn wag a'r tŷ yn mynd â'i ben iddo. Prynodd Dr Kate Roberts y tŷ a'i gyflwyno i'w ffrindiau er mwyn creu yr hyn a ddisgrifiwyd fel adfail rheoledig. Tynnwyd y to, tacluswyd y tu mewn, a gosod sawl plac llechen gyda dyfyniadau o'i gweithiau ar y muriau. Ryw ugain mlynedd yn ddiweddarach, ffurfiwyd pwyllgor newydd i adfer y tŷ fel bwthyn o oes ieuenctid Kate Roberts. Ar ôl sicrhau grantiau, dyma a wnaed, gan godi ystafell newydd gydag adnoddau arlwyo a chyfarfod. Am rai blynyddoedd agorwyd y tŷ i ymwelwyr yn ystod yr haf ond gyda'r nifer yn edwino, caewyd y drysau a maes o law fe'i drosglwyddwyd i ofal CADW, sydd yn agor yr adeilad ar gais unrhyw un sydd am weld y lle.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Seiliwyd yr erthygl yn bennaf ar wybodaeth bersonol