Capel Moreia (A), Llanllyfni

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:45, 11 Ebrill 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sefydlwyd achos yr Annibynwyr yn Llanllyfni am y tro cyntaf ym 1870 gan ychydig o aelodau Capel Soar (A), Pen-y-groes. Cafwyd cymorth gan Y Parch. William Ambrose o Borthmadog wrth ei sefydlu,[1] ac roedd gan yr aelodau cyntaf o’r Annibynwyr gytundeb i ddefnyddio Capel Tŷ'n Lôn (AB), Llanllyfni, a oedd erbyn hynny, wedi gwanhau'n sylweddol o ran aelodaeth, ar yr amod bod y ddau gorff yn cyd-addoli pob rhyw fis neu ddau. Cyflwynwyd y bregeth gyntaf 12fed o Chwefror 1868 gan y Parch. John Davies, Nasareth.

Yn 1870 penderfynodd yr Annibynwyr adeiladu eu capel eu hunain yn Llanllyfni ac agorwyd Capel Moreia yn swyddogol ym 1871.[2]

Ar ôl cau a dymchwel adeilad Capel Salem, sef capel y Methodistiaid Calfinaidd a safai bron gyferbyn â Moreia, fe symudodd yr eglwys honno i Moriah, gan ei ail-enwi'n Salem. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae'r achos hwnnw wedi cau a'r adeilad yn dirywio o ran ei gyflwr.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gwefan Dyffryn Nantlle, [1]
  2. T. Rees a J. Thomas, Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, (Lerpwl, 1873), tt.232-3.