Afon Rhyd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:09, 5 Ebrill 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yn ôl y mapiau, Afon Rhyd yw enw'r afon sy'n codi rhwng Penrhyn a Chlogwyn-cellog ar lethrau Moel Tryfan, ac yn llifo ar draws y caeau nes lifo o dan bont yng Nghlan-rhyd. Dyma, o bosibl, oedd y rhyd, sef Rhyd y Dimpan, a roddodd yr enw i'r afon. O Lan-rhyd rhêd trwy geunant bach belled â Felinwnda lle 'roedd melin flawd, Melin Wnda. Roedd W. Gilbert Williams, fodd bynnag, o'r farn mai Afon Carrog oedd enw cywir yr afon. Mae'n ymuno â'r Afon Carrog (neu Afon Wyled) ger Fferm Blythe, mewn man a elwid yn gynt yn Abercarrog.[1]

Arferid galw'r afon yn Afon Glanrhyd weithiau, ac yn yr ardal o gwmpas y Foryd, Afon Storws.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. W. Gilbert Williams, Moel Tryfan i'r Traeth, (Pen-y-groes), tt.16-17
  2. Archifdy Gwynedd, XPlansB/47