Chwarel Braich-rhydd
Un o'r chwareli llai ar Foel Tryfan oedd 'Chwarel Braich-rhydd, er mai dyma oedd chwarel gyntaf ardal Moel Tryfan, gan iddi fod ar waith mor gynnar â 1787. Fe'i ddatblygodd i ddechrau yn y darn a elwir yn Chwarel yr Hen Fraich. dim ond 30-40 o ddynion a weithiai yno yn ystod hanner cyntaf y 19g., ac erbyn 1859, adroddwyd fod y twll yn llawn dŵr. Ym 1831, daeth y perchnogion, (Cwmni Cilgwyn) i ben. Ym 1852, cymerwyd y chwarel gan Charles Curling, Llundeiniwr oedd am fuddsossi ei gyfalaf yn y lle. Erbyn 1864, dim ond 5 o ddynion oedd ar waith, ac ni chynhyrchwyd ond 34 tunnell o lechi.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), tt221-5.