Chwarel Fronheulog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:22, 31 Ionawr 2019 gan 92.3.1.155 (sgwrs)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel lechi bychan oedd Fronheulog, (neu Fronlog fel y'i sillefir weithiau) ger Tan'rallt.(SH 489519).

Twll cymarol fychan oedd y man yma, a chredir iddi ddyddio o'r 1840au. Ar ol cyfnod segur, fe'i hailagorwyd ym 1866 gan William Turner a'i gwmni, a 7 mlynedd yn ddiweddarach roedd 12 o ddynion yn gwithio yno. Ar ei chyfnod prysuraf, ffurfiwyd cwmni newydd, Cwmni Cyfyngedig Chwarel Llechi Fronheulog Newydd gan gynhyrchu 1,642 tunnell o lechi a chyflogi 98 o weithwyr ym 1882. Wedi hynny, tueddwyd i alw'r chwarel yn chwarel Fronheulog Newyd neu Fronlog Newydd, ac arferai hefyd sillafu enw'r chwarel efo'r llythyren 'V'. Arferai yrru'r llechi at y cwsmeriaid ar hyd tramffordd, sef Rheilffordd Chwareli Llechi Sir Gaernarfon a gysylltodd â changen Nantlle ger Pant Du.[1]

Fel nifer o chwareli eraill Dyffryn Nantlle, roedd rhaid ei chau yn yr ugeinfed ganrif oherwydd y diffyg mewn galw am lechi. Fe'i chaewyd erbyn 1914, ond roedd criw bychan yn cloddio yno o'r 1950au ymlaen ar gyfer llechi gwyrdd i greu teils a phafin crazy paving.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

  1. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry’’, (Newton Abbot, 1974), t. 319.
  2. Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)