Benjamin Piercy

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:22, 19 Hydref 2017 gan Robin Owain (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Hyrwyddwr a pheirannydd rheilffordd oedd Benjamin Piercy (1827-1888). Roedd yn bartner efo Thomas Savin yn y gwaith o sefydlu Rheilffordd Sir Gaernarfon. Yn wreiddiol o Drefeglwys, Sir Drefaldwyn, fe ddilynodd ei dad yn y proffesiwn o dirfesuro. Roedd Savin yn chwarae'r prif ran mewn sefydlu Rheilffordd Sir Gaernarfon fodd bynnag, gan fod Piercy wedi cychwyn ym 1862 ar gyfnod hir fel prif hyrwyddwr, peiriannydd a symbylydd rheilffyrdd Sardinia.

Ffynonellau

  • A Regional History of the Railways of Great Britain; Peter E. Baughan, Cyf.11: North and Mid Wales; Atlantic Transport Publishers; tt.97-9
  • Y Bywgraffiadur Cymreig, Gwasg Prifysgol Cymru (2008); t.722