Gorsaf reilffordd Cyffordd Tryfan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:26, 28 Awst 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Cyffordd Tryfan yn enghraifft brin iawn os nad unigryw ym Mhrydain o gyffordd ar reilffordd drac cul lle gallai deithwyr newid trenau. Mae hi'n sefyll dwy filltir i'r de o orsaf Dinas yn y man lle arferai cangen i Rostryfan ac o'r fan honno i'r Bryngwyn wyro oddi wrth brif lein Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru, er prin bod llawer erioed wedi aros yno i newid trenau.

Roedd lŵp yma i drenau basio, signalau a bocs signalau (y mae ei sylfeini i'w gweld gyferbyn â'r platfform).

Ar dafod leferydd, gelwid yr orsaf yn 'Stesion Tyddyn Gwŷdd'.

Mae'r adeilad wedi ei ailgodi'n ddiweddar, gan ddefnyddio'r hen ddefnyddiau hyd y gellid, ac mae trenau'n galw yno ar gais. Yr orsaf nesaf ati yw Waunfawr.

Heddiw mae'n hwb ar gyfer nifer o lwybrau, gan gynnwys llwybr ar hyd hen gangen y Bryngwyn.

Gorsaf Cyffordd Tryfan yn 2011