Rhyd y Dimpan
Rhyd y Dimpan oedd enw'r rhyd bwysig lle croesai'r lôn fawr o Gaernarfon i gyfeiriad Pwllheli a Dyffryn Nantlle dyfroedd Afon Rhyd - hynny nes i'r cwmni dyrpeg godi Pont Glan-rhyd ar draws yr afon. Roedd y rhyd lle mae pentrefan Glan-rhyd yn sefyll heddiw. Nid oes golwg o unrhyw ryd yn y fan honno erbyn heddiw.
Ystyr Dimpan yw clustog, stôl bedair troed, stôl wair, padin o dan ffrog merch neu ben-ôl. Fe'i nodir ym 1768 fel y glustog a roddid ar ben "blocin tîn", sef stôl amrwd mewn chwareli llechi lle eisteddai'r sawl oedd yn hollti llechi.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru, t.3498 dan Timpan.