Afon Rhyd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:32, 13 Mawrth 2019 gan 92.3.13.41 (sgwrs)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Afon Rhyd yn codi mewn corsydd gerllaw Tyddyn Gwŷdd a Thyddyn Parthle, ac yn llifo ar draws y caeau nes lifo o dan bont yng Nghlan-rhyd. Dyma, o bosibl, oedd y rhyd, sef Rhyd y Dimpan, a roddodd yr enw i'r afon. O Lan-rhyd rhêd trwy geunant bach belled â Felinwnda lle 'roedd melin flawd, Melin Wnda. Mae'n llifo i'r Afon Carrog ger Fferm Blythe.