Afon Carrog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:59, 20 Mehefin 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae tarddle Afon Carrog yn y bryniau isel i'r de o bentref Rhostryfan gerllaw Plas Tryfan. Mae Afon Carrog yn ymuno ag Afon Gwyled o dan y bont yn y Dolydd ac yn ffurfio'r ffin yn yr ardal honno rhwng plwyfi Llandwrog a Llanwnda. Er bod peth cymysgedd rhwng enwau'r ddwy afon, (mae Pont Wyled yw enw'r bont dros yr afon ar yr A499 (lôn bost Pwllheli), derbynnir fel arfer mai Afon Carrog yw enw'r afon o ble mae'r ddwy'n ymuno hyd at yr aber ym mhen draw Y Foryd. Er bod ceunentydd ar hyd yr afon ger Hen Gastell a Dol Meredydd, nid oes hanes bod melinau wedi bod ar yr afon. Hyd yr afon yw tua 4 milltir.