Gorsaf reilffordd Rhostryfan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:26, 6 Tachwedd 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Gorsaf Rhostryfan oedd yr unig orsaf rhwng Cyffordd Tryfan a phen y gangen cyn i'r cledrau redeg i fyny incléin at chwareli Moel Tryfan a'r Fron yng Ngorsaf Bryngwyn ar gangen Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru ("y North Wales Narrow Gauge Railways"). Fe'i hagorwyd 21 Mai 1877 ond daeth cludo teithwyr i ben ar y gangen 31 Rhagfyr 1913. Yr oedd un seidin a sied nwyddau yn iard yr orsaf. Caewyd y lein at ddibenion nwyddau yng nghanol y 1930au.

Mae cae chwarae plant ar y safle heddiw, ger Ysgol Rhostryfan, ac mae llwybr yn rhedeg trwy'r safle ar wely'r cledrau gynt. Nid nepell o safle'r orsaf, roedd y lein yn pasio o dan y ffordd i Rosgadfan, ac mae tanbont a godwyd yn null traddodiadol RhCGC ym 1877 i'w gweld o hyd.