Maestryfan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:36, 13 Ebrill 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Maestryfan yn bentrefan ym mhlwyf a chymuned Llandwrog, lle bu ffatri ŵlan ar un adeg, sef Ffatri Tryfan. Mae Afon Llifon yn rhedeg trwy'r dreflan mewn ceunant sy'n dyfnhau i gyfeiriad y môr. Prin bod hanner dwsin o dai yma nes i'r cyngor dosbarth lleol, Cyngor Dosbarth Gwyrfai, godi cilfach o dai cyngor yng nghanol ffermydd ar gyfer gweision fferm yr ardal, a hynny yn y 1930au. Ni arddelid yr enw Maestryfan ar fapiau Ordnans mor ddiweddar â 1949. Y mae un ffordd o Faestryfan yn arwain at y lôn bost ger Capel Bryn'rodyn, un arall i gyfeiriad Penfforddelen, a'r llall i gyfeiriad Rhos-isaf. Roedd nifer o lwybrau hefyd yn cwrdd ar gyffordd y ffyrdd hyn, ac mae'n amlwg bod yr holl ffyrdd a llwybrau hyn yn dangos bod Maestryfan yn gyrchfan oherwydd y felin oedd yma gynt.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma