Dinas
Mae Dinas yn enw ar gasgliad o dai o amgylch eglwys Llanwnda. Enwyd y pentrefan hwn, mae'n debyg, ar ôl fferm y Dinas gerllaw, a Plas Dinas, hen gartref y Buckeleyaid ac wedyn teulu Armstrong-Jones. Dyma hefyd safle Gorsaf reilffordd Dinas ar lein Rheilffordd Eryri. Dyma lle gychwynnodd lein Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru, ac roedd cyfleusterau yma i newid trenau o'r lein fawr i'r lein fach. Mae'n debyg mai oherwydd i'r rheilffyrdd a'r ystâd gyflogi nifer o ddynion y tyfod y casgliad o dai yn y fan hon. Erbyn hyn mae ddwy ystad fechan o dai mwy newydd yma hefyd.
Yma y mae pencadlys lleol Dŵr Cymru, ac ar un adeg dyma lle roedd depo Adran Priffyrdd y Cyngor Sir, a'r Bwrdd Afonydd.
Mae Ystafell yr Eglwys ar yr allt i lawr o'r ffordd fawr i Ddinas ei hun lle cynhaliwyd digwyddiadau a lle'r oedd yr orsaf bleidleisio nes i Ganolfan Felinwnda agor ar ddechrau'r ganrif. Erbyn hyn mae'r adeilad wedi cau.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma