Ffynnon Beuno (Llanwnda)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:36, 27 Mawrth 2018 gan Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ffynnon y mae fawr o sôn amdani yw Ffynnon Beuno ym mhlwyf Llanwnda. Ni ddylid ei chymysgu gyda'r Ffynnon Beuno arall yn Uwchgwyrfai, sef yr un ar ochr y lôn ger Eglwys Beuno Sant, Clynnog Fawr.

Mae Ffynnon Beuno, Llanwnda, yn ucheldir y plwyf, nid nepell o'r man lle saif Gorsaf reilffordd Cyffordd Tryfan, ar dir Gwredog. Nid oes dim adeiladwaith o unrhyw fath o gwmpas y ffynnon hon, sy'n dod o'r ddaear dan stwmpyn coeden sydd wedi disgyn.

Cyfeiriadau