Ffynhonnau Uwchgwyrfai

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:47, 26 Mawrth 2018 gan Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae nifer o ffynhonnau Uwchgwyrfai â hanes sy'n mynd yn ôl gannoedd os nad miloedd o flynyddoedd. Mae gan rai enwau, ac mae rhai yn meddu ar rinweddau gwirioneddol neu honedig. Rhai o'r rhain yw'r ffynhonnau sanctaidd a gysylltir yn aml â saint oes cynnar yr Eglwys Celtaidd. Rhestrir rhai hynod isod, a cheir erthyglau unigol am rai ohonynt.

Cyn dyddiau pibellau dŵr, roedd gan bob fferm a'r rhan fwyaf o dai ffynnon, naill ai un a fyrlymodd o'r graig gerllaw neu un wedi tyllu i lawr nes gyrraedd lefel y dWr yn y ddaear. Yn y man pibellwyd rhai gan greu ffynnon gymunedol yng nghanol pentref (megis yn Llandwrog, neu ddarparu cyflenwad i nifer o dyddynod a ffermydd y fro (megis yn achos Ffynnon Wen ger y Bryngwyn.

Ffynhonnau Uwchgwyrfai

Dyma restr o rai o ffynhonnau'r cwmwd sydd ahanes neilltuol yn perthyn iddynt[1]:

Plwyf Clynnog Fawr

Ffynnon Beuno Ffynnon Ddigwg Ffynnon Nantcall

Plwyf Llanaelhaearn

Ffynnon Aelhaearn

Plwyf Llandwrog

Ffynnon Wen

Plwyf Llanllyfni

Ffynnon Rhedyw

Plwyf Llanwnda

Ffynnon Armon

Cyfeiriadau

  1. Francis Jones, The Holy Wells of Wales, (Caerdydd, 1954), passim, a chyfeiriadau unigol a/neu wybodaeth bersonol