Dolydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:18, 28 Awst 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Treflan fechan ar lan Afonydd Carrog a Gwyled sy'n cwrdd dan Bont Dolydd, ac sydd ar yr hen ffordd dyrpeg (A487) rhwng y Bontnewydd a'r Groeslon yw'r Dolydd. Saif ar y ffin rhwng plwyfi Llanwnda a Llandwrog. Cafwyd yr enw o fferm Dolydd Byrion oedd i'r dwyrain o'r ffordd, ac arddelid yr enw hwnnw'n llawn am beth amser fel enw'r dreflan. Dichon, fodd bynnag, mai Dolydd Irion oedd yr enw gwreiddiol; ceir yr enw ar fap John Evans o Ogledd Cymru (1804). Fe saif y Dolydd ar lawr dyffryn bas yr Afon Carrog, ac mae'r tir yn tueddu i aros yn iraidd pan fydd llymder y gaeaf wedi llosgi tyfiant y caeau oddi amgylch.

Mae'r tŷ mwyaf yn y Dolydd, sef Plas Dolydd, wedi arfer bod yn dafarn ac yno y cyfarfu egin gynulleidfa achos Capel Bryn'rodyn, cyn i'r capel gael ei godi tua chwarter milltir i'r de. Roedd Evan Jones, Plas Dolydd yn adeiladydd a chontractwr pwysig yng nghanol y 19g.

Gerllaw Giât Dolydd, tollborth ar y ffordd dyrpeg (y chwalwyd ei holion olaf wrth godi tŷ newydd a elwir Y Bwthyn) oedd Efail Dolydd, gefail gynhyrchiol iawn hyd yr ugeinfed ganrif. Olynydd y busnes gwledig hwnnw yw'r modurdy presennol ger y bont, sydd bellach hefyd yn rhedeg swyddfa bost ar gyfer y Groeslon a'r cylch.

Nid nepell o'r Dolydd fe geir (mewn ceunant y tu ôl i fferm Cefn Hendre) safle Melin Cil Tyfu, a fu'n eiddo i deulu Wynniaid Gwedir yn ystod y 16g. Ar hyd y llwybr cyhoeddus sy'n arwain o'r bont i'r gorllewin i gyfeiriad lôn Pwllheli a Hen Gastell ceir olion a all fod yn hen wal gefn plasty'r Hendre, cartref y Cadben Edmund Glynn, un o feibion plas Glynllifon, ynad heddwch ac arweinydd gweinyddiad sirol yn ystod teyrnasiad Cromwell.

Y Goeden Eirin, tŷ a addaswyd o hen adeiladau fferm yr Hendre, oedd cartref olaf y llenor a'r beirniad yr Athro John Rowlands.