Melinau Afon Llifon
Yr oedd o leiaf chwe Melin ar Afon Llifon er bod Afon Llifon yn un o'r afonydd llai i redeg trwy'r cwmwd. Am rannau helaeth o'i hyd, fodd bynnag, mae wedi ffurfio ceunentydd cul sydd yn creu llif cyflym a chryf, yn addas iawn i droi peiriannau melinau. Oherwydd hyn, nid yw'n glir i ba raddau oedd angen ffrwd melin i gryfhau grym y dŵr (heblaw am y rhai ger Glynllifon).
Yn cychwyn o'i tharddiad, ceid y canlynol ar lannau Afon Llifon:
- Gwaith Llechi Llifon, melin lechi, ger Hafod-boeth
- Ffatri Tryfan, melin wlân
- Melin Forgan, melin ŷd
- Melin Llwyn-y-gwalch, melin ŷd
- Pandy Glynllifon, melin bannu
- Melin y Plant (Glynllifon), ffoledd
- Melin Goed Glynllifon, melin goed
Gweler tudalenni ar wahân am fanylion pob melin, trwy glicio ar yr enw yn y rhestr uchod.