Coffi yn Uwchgwyrfai, 1850

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:55, 14 Ionawr 2026 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Coffi

Daeth coffi i Ewrop yn ystod y 16g, ac erbyn ail hanner yr 17g. roedd llawer yn cael ei yfed yn nhrefi yn Lloegr, mewn "tai coffi" arbennig. Erbyn y 1670au, roedd dros 3000 o'r tai coffi hyn yn Lloegr[1], a dichon bod rhai'n ymddangos yn nhrefi mawr Cymru yn nystod y ganrif a hanner wedi hynny.

Serch hynny, nid yw'n arferol meddwl am Gymry cyffredin y 19g fel rhai a fyddai'n yfed fawr o goffi. Yr oedd te'n ddiod o ddewis gan y werin, os nad oeddynt yn ffafrio cwrw bach neu seidr, neu os nad oeddynt ond yn gallu fforddio te.

Groseriaid Uwchgwyrfai a'u cyflenwyr

Serch hynny, roedd groseriaid y cwmwd yn barod i ddiwallu awydd rhai cwsmeriaid am goffi aac roedd dau gwmni, John Cassell a John Owen, y ddau o Lundain, yn hysbysebu'n eang yn y Wasg tua 1850, Aeth Cassell mor bell â rhybuddio cwsmeriaid rhag coffi ei brif gystadleuydd yn y farchnad, John Owen, gan eu hannog i fynd at ei asiantau fo i brynu coffi. Serch hynny, rhyw ddwsin o asiantau ar draws Gogledd Cymru, a neb yn nes na Chaernarfon, lle roedd J.R. Jones, groser ar Y Maes, yn asiant - neu Bwllheli, lle roedd R. Williams, ger Gwesty'r Goron, hefyd yn gwerthu Coffi Cassell.[2]

Roedd John Owen yn gwerthu ei goffi'n fwy eang ar draws Uwchgwyrfai trwy ddelio'n uniongyrchol â groseriaid y fro, ac mae o'n eu rhestru mewn hysbysebion tudalen flaen yn y Wasg, a hynny'n weddol gyson. Erbyn mis Mai 1850, roedd siopydd groser mewn pump o bentrefi Uwchgwyrfai'n stocio ei goffi - a hynny, yn ddigon diddorol, mewn pacedi yr un faint â rhai Mr Cassell. Mae dyfyniad isod o'r Amserau yn rhoi darlun o'r ffasiwn newydd mewn diodydd yn cychwyn[3]:

COFFI JOHN OWEN. Gan fod Coffee wedi dod eisioes ac yn debyg o fod yn un o'r cynnaliaethau llifnoddol mwyaf cyffredinol yn y deyrnas y mae o bwys i'w gael yn dda o ran ei ansawdd, yn beraidd o ran ei flas, ac yn rhydd oddiwrth unrhyw gymysgedd niweidiol. Y mae Coffee JOHN OWEN yn cyfarfod archwaeth yr oes, oblegid y mae y Coffee rhagorawl hwn yn gymmysgedd Philosophaidd o'r rhywiau mwyaf dewisol a gynhyrchir yn y byd. Y mae yn bigiadau o gynnyrch Mocha, Costa Rica, Java, a thyfiadau mynyddoedd Jamaica, pa rai a wneir i fynu yn y fath fodd gan John Owen fel ac i ddwyn allan fawr gryfder y Mocha, pereidd-dra y Costa Rico, melusdra ardderchog Java, a thynerweh rhyfeddol y Jamaica yr hyn a gyfansodda y fath raddau o gryfdwr, ardderchowgrwydd, a blas nas gellir ei gael yn unman arall. Gellir cael unrhyw bwysau, o ddwy wns i fyny, ganddynt am y prisiau canlynol:- 
*Coffee John Owen, Rhif 1 1s. 0c. Cryf a da. 
*Coffee John Owen, Rhif 2.1s. 4c. Rhagorol dda. 
*Coffee John Owen, Rhif 3 1s. 8c. Y mae y coffee hwn yn faethlon, cryf, a blasus, boddlona bawb a'i pryno.
*Coffee John Owen, Rhif 4 2s. 0c. Hwn ydyw y goraf a ellir ei gael am unrhyw bris, gan ei fod yn gymysgedd o'r Planhigion goraf yn y byd. 
D.S.— Y mae enw John Owen ar bob swpyn o'r Coffee, heb yr hwn nid oes yr un yn ddidwyll.
Ystordy, 55, Wenlock Street, Hoxton New Town, Llundain. Y gwerthiant cyflym a gafwyd i'r Coffee hwn yn Llundain, sydd yn brawf o'i ragoriaethau clodwiw. Y mae John Owen yn penderfynu na chaiff dim fod yn eisiau o'i du ef, tuag at alluogi y cyffredin i gael y Coffee goreu a gynnyrchir yn y byd; y mae rhan fawr o drigolion Prydain, heb archwaethu Coffee yn ei berffeithrwydd hyd yn hyn, gan hyny, erfynir arnynt i brynu Coffee John Owen, yr hwn a ammoda sefyll yr uwchaf yn y fasnach hon. Profwch ef a bernwch trosoch eich hunain.

Yn dilyn y geiriau hyn , ceir rhestr o bron i gant o werthwyr y coffi ar draws Gogledd Cymru a'r Gororau, ac mae hyn hefyd yn ddefnyddiol i weld pwy ac ym mha leoedd yn Uwchgwyrfai yr oedd groseriaid yn bod tua chanol y 19g. Groseriaid Uwchgwyrfai a restrir yn hysbyseb fis Mai oedd:

Efallai mai'r peth mwyaf diddorol ynglŷn â'r rhestr hon yw'r ffaith ei bod yn cynnwys pentrefi diwydiannol yn hytrach nag ardaloedd lle roedd mwy o ffermwyr cefnog yn tueddu byw, sef y bobl oedd yn siopa'n fwy cyson yn y trefi.

Roedd yn amlwg bod John Owen wedi taro ar farchnad lewyrchus, beth bynnag oedd ansawdd ei goffi. Yr unig wahaniaeth yn ei brisiau oedd y ffaith ei fod yn gwerthu'r coffi rhataf am rôt (4c) yn llai na choffi rhataf Cassell. Erbyn Medi 1850, roedd y rhwydwaith o groseriaid a werthai coffi John Owen wedi ymestyn ar draws y cwmwd, a cheir rhestr fwy defnyddiol fyth o roseriaid y fro yr adeg honno yn y papur lleol[4]:

Sylwer mai'r unig bentref o bwys nad oedd yn cael ei gynnwys oedd Y Bontnewydd er bod nifer o siopydd yno - ond wrth gwrs, nid yw'r pentref hwnnw ond milltir o dref Caernarfon, lle gwerthid coffi John Owen yn eang, yn ogystal â choffi Cassell.

John Owen a'i deulu

Un cwestiwn sydd yn aros. Pwy oedd y John Owen hwn, a pham oedd masnachwr o Lundain bell yn targedu cartrefi Uwchgwyrfai? Mae'r hysbysebion yn dechrau ymddangos yn gynnar ym 1850 ond yn diflannu yn fuan ar ôl dechrau 1851. Hawdd serch hynny oedd cael rhyw grap ar bwy oedd y dyn, gan fod Cyfrifiad 1851 ar gael.[5] Fel masnachwr mae'n ddigon bosibl ei fod ar siwrne marchnata fel gwerthwr teithiol yn recriwtio mwy o siopau, ond (beth bynnag y rheswm) nid oedd o adref ar noson y Cyfrifiad ym 1851 yn 55 Wenlock Street, Hoxton (ger Islington a'r Barbican yn nwyrain Llundain). Serch hyn, roedd ei wraig yno, sef Ann Owen, dynes ifanc 26 oed a hanai o Sir Gaernarfon (ni nodwyd y plwyf). Nodwyd ei gwaith fel deliwr mewn coffi, a'i statws fel y penteulu, er ei bod yn wraig briod (h.y. nid yn weddw), sydd yn awgrymu bod y gŵr yn byw mewn man arall, dros dro o leiaf. Neu a oedd gwahanu wedi bod yn sgîl prysurdeb y busnes?

Mae'r darlun hyd yna'n ddigon clir, one mae maylion gweddill y preswylwyr yn y tŷ'n ddiddorol iawn. Mae'n amlwg mai Cymry oedd pawb, a bod busnes gweddol lewyrchus yn mynd rhagddo yn y cartref. Roedd gan Ann (ac mae'n rhaid, John Owen) ddau o blant: John, 2 oed, a aned yn Spittalfields (ardal o Lundain nid nepell o Hoxton); a Jane E. Owen, a aned yn Llanllyfni. Yn byw efo'r teulu roedd Richard Jones, 15 oed, brawd Ann Owen - hwnnw wedi ei eni yn Llandwrog; Thomas Jones, 15 oed, brawd yng nghyfraith Ann, a aned yn Llanllyfni; Ann Williams, y forwyn, 19 oed, eto o Lanllyfni; a fforman yn gweithio i Ann yn y busnes coffi, David Roberts, 26 oed, a aned yn Llandwrog. Dyna deulu felly o Uwchgwyrfai wedi setlo yn Llundain a denu ffrindiau, perthnasau a chydnabod atynt.

Ond yr oedd un person arall yn byw neu'n aros yn y tŷ y noson honno. Robert Owen, gŵr gweddw oedd yn dad i Ann yn ôl ffurflen y Cyfrifiad. Gŵr 54 oed ydoedd, ac roedd cyfrifwr y Cyfrifiad wedi ffrwcsio efo'r holl enwaau Cymraeg o bosib, gan fod ei blwyf enedigol wedi ei nodi'n bur aneglur, rhywbeth fel"Llanfingall", ond yn sicr yn Sir Gaernarfon. Tybed y gallai hynny olyguyn Llanfihangel-y-Pennant? Roedd Robert Owen yn 54 oed, sef wedi ei eni oddeutu 1797. Nodwyd ei alwedigaeth fel Gweinidog ("minister") Capel Jewin Crescent.

Hyd yma, ni llwyddwyd i ganfod John Owen, dyn y coffi, ar yr un ffurflen gyfrifiad, nac Ann, ei theulu na'i thad ar ffurflen ar wahân i un 1851. Dylai olrhain hanes tad Ann roi rhywfaint o wybodaeth gan i'r ffurflen ddweud ei fod yn weinidog ar un o gapeli pwysicaf y Cymry Llundain. Yn wir, roedd yna Robert Owen yn flaenor yno trwy gydol yr 1840au, sef Robert Owen (Eryron Gwyllt Walia), gŵr a aeth yn weinidog ar Jewin - ond nid cyn 1859. Roedd hwnnw'n fab Ffridd Baladeulyn yn Nyffryn Nantlle, ond cafodd ei eni ym 1803, ac felly roedd tad Ann yn chwe mlynedd yn hyn nag ef, a bwrw nad oedd cymysgu dyddiadau. Roedd yn gyndyn o fynd yn ordeiniedig, gan ddewis parhau tan 1859 i weithio fel addurnwr tai, ac felly pam byddai'n honni ei fod yn weinidog ym 1851. Ac roedd wedi priodi ag Ellen, merch o'r Bala ym 1832, a honno'n dal yn fyw, ac felly nid oedd yn ŵr gweddw pan wnaed y Cyfrifiad ym 1851. Fel ateb terfynnol, gellir edrych ar ffurflenni Cyfrifiad St Sepulchre, Finsbury lle gwelir fod ir Eryron yn byw gydag Ellen a'i blant yn 14 Charterhouse Lane.[6] Pwy felly oedd tad Ann a pham yr honnodd ei fod yn weinidog?

Nid oedd y teulu'n dal yn 55 Wenlock Street ym 1861. Dirgelwch felly yw i ble aeth y teulu, a beth a ddigwyddodd i'r busnes ac i John Owen ei hun.

Trwy hap, daeth 55 Wenlock Street i amlygrwydd eto ymhen bron i ganrif. Fe'i chwalwyd gan fom Almeinig ar noson gyntaf bomio Llundain ym 1940, a dynes oedd yn byw yno oedd y cyntaf o'r miloedd o Lundeinwyr i gael eu lladd gan fomiau yn ystod y rhyfel.[7]



Cyfeiriadau

  1. Wikipedia, erthygl ar History of Coffee a'r cyfeiriadau a geir yno [1], cyrchwyd 13.1.2026
  2. Carnarvon and Denbigh Herald, 2.2.1850, t.1
  3. Yr Amserau, 29.5.1850, t.1
  4. Carnarvon and Denbigh Herald, 7.9.1850, t.1
  5. Cyfrifiad Shoreditch, Llundain, 1851
  6. Y Bywgraffiadur Ar-lein, erthygl ar Robert Owen,[2] ,cyrchwyd 14.1.2026; Cyfrifiad Finsbury, 1851
  7. Gwefan Blitz Incidents, [3], cyrchwyd 14.1.2026