Clynnog Fechan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:00, 27 Hydref 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Gwelir yr enw Clynnog Fechan weithiau ymysg eiddo Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr neu Glas ac Abaty Sant Beuno fel yr oedd yn ystod y Canol Oesoedd. Dywedir mai gŵr o'r enw Idwal a roddodd yr eiddo hwn i'r sefydliad, ynghyd â Phenrhos (na dywedir yn glir yn y ffynonellau pa Benrhos) ac hefyd Aber Braint. Mae aber yr Afon Braint ger Plas Penrhyn a Rhuddgaer, dau blasty ym mhlwyf Llangeinwen yn Ynys Môn, ac mae'n eglur hefyd fod Clynnog Fechan ym mhlwyf LLangeinwen. Yn wir, Clynnog yw enw'r fferm yn union i'r gorllewin o eglwys y plwyf hwnnw.

Nid oes sicrwydd pwy oedd Idwal, ond gall mai Idwal Foel ap Anarawd ap Rhodri Fawr, brenin Gwynedd rhwng 916 a'i farwolaeth yn 942 ydoedd.[1]

Roedd Eglwys Clynnog Fawr yn eglwys gyfrannogol ("portionary church") yn y Canol Oesoedd hwyr ac roedd ficer yn cael ei benodi i bob cyfran gan reithor y fam egwlys . Clynnog Fechan oedd un o'r pum cyfran hyn, a chyfranogydd Clynnog Fechan oedd ficer Llangeinwen felly.[2]

Nid oedd y ffaith fod Clynnog Fechan yn rhan o eiddo a dylanwad Eglwys a rheithor Clynnog yn golygu bod unrhyw gysylltiad mwy na hynny efo Uwchgwyrfai.

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig (Llundain, 1953), t.385; J.E. Lloyd, A History of Wales (Llundain, 1954), tt.335-8
  2. Colin A. Gresham, “A Further Episode in the History of Clynnog Fawr”, Trafodion Anrh. Gym. y Cymmrodorion, 1966, Rhan II, , t.300