Odynau calch
Mae olion nifer o odynau calch wedi eu dangos ar fapiau Ordnans a gyhoeddwyd tua 1889.[1] Roedd y rhain i gyd ar lan y môr, a'u diben oedd cynhesu calchfaen nes iddo droi'n bowdwr y gellid ei daenu ar y tir i'w ddadasideiddio a'i wneud yn fwy ffrwythlon. Mae hyn yn arfer sydd yn dyddio'n ôl dros o leiaf ddwy ganrif a hanner yn Uwchgwyrfai. Defnyddid calch hefyd fel un o gynhwysion plaster a mortar, ac (o'i gymysgu gyda dŵr) i wyngalchu adeiladau er mwyn lladd afiechydon. Roedd yr odynau ar lan y môr, a hynny ger aber neu draeth gwastad, er mwyn derbyn y calchfaen oddi ar longau. Byddai glo i gynhesu'r odynau hefyd yn dod ar longau. Byddai'r rhain yn llongau gyda gwaelod gweddol fflat iddynt fel y gallent ddod at y lan ar ben llanw a setlo ar y traeth wrth i'r llanw fynd allan. Byddai'r glo'n dod naill ai o Falltraeth neu o ardal y Fflint, a'r calch naill ai o Sir Fôn neu ardal y Gogarth, gan nad oedd calchfaen ar gael yn nes na hynny.
Nodir chwech o odynau ar fapiau 1889, gyda thair yn cael eu galw'n "old limekilns", er na ddylid cymryd yn ganiataol bod y lleill yn dal i weithio. Mae'n debyg mai dal i sefyll a heb ddadfeilio oeddynt, gan fod dyfodiad y rheilffordd i Uwchgwyrfai tua 1867 wedi golygu y gellid mewnforio calch o ddwyrain Cymru'n rhatach, a hynny at seidins yn nes at ffermydd yr ucheldir lle roedd y mwyaf o angen am galch, gan mor asidig yw'r pridd yno.
Dyma'r odynau calch a ddangosir ar y mapiau Ordnans - er mai dim ond Odyn y Foryd sydd yn cael ei enwi. Fel arall, rhoddir enw'r fferm agosaf yn y rhestr isod.
*Odyn galch Trefor *Hen odyn Aberafon, ger Gurn Goch *Odyn Tyddyn Hen, ger Gurn Goch *Hen odyn Tŷ Coch, Clynnog Fawr *Odyn galch Tŷ Coch ger Porth Clynnog *Hen odyn Llyn-y-gele *Odyn galch y Foryd ger Y Foryd Bach, sef aber Afon Gwyrfai.
Roedd Odyn Galch y Foryd yn weithredol erbyn 1814, os nad llawer cyn hynny.[2]
Erbyn 1914, nid oedd y map Ordnans yn cynnwys odynau Aberafon a Phorth Clynnog, tra bod odynau Tyddyn Hen, Tŷ Coch a Llyn-y-gele yn cael eu disgrifio fel "old limekilns". Mae'n debygol mai'r odyn olaf i fod yn weithredol yn Uwchgwyrfai oedd Odyn y Foryd, ond disgrifir honno hyd yn oed ar y map fel odyn nad yw'n gweithio, a hynny er ei bod wrth hen gei Y Foryd.[3]