Ysgol Gylchynol Pentre Bach

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:07, 27 Chwefror 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Tyddyn yw Pentre Bach ger Pont Betws Garmon. Arferai fod o fewn ffiniau plwyf Llanwnda a chynhaliwyd ysgol gylchynol yno dan nawdd ficer y plwyf, Richard Farrington. Ym 1749 trefnodd Farrington un o Ysgolion Cylchynol Griffith Jones, Llanddowror yn Eglwys Betws Garmon, a'r flwyddyn ganlynol symudwyd yr ysgol honno ar draws yr afon i blwyf Llanwnda. Yr athro oedd dyn o'r enw John Davies, a dywedir i Farrington fod yn fodlon iawn ar ei waith.[1]

Cyfeiriadau

  1. W. Gilbert Williams, Y Parch. Richard Farrington M.A., Y Llenor, Cyf.20, (1941), tt.142-7 [1]