Ysgoldy Pen'rallt (MC)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:33, 18 Rhagfyr 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Saif adeilad Ysgoldy Pen'rallt ar ben yr allt sydd yn arwain o'r Lôn Wen i lawr i bentref Waunfawr a Dyffryn Gwyrfai. Nid yw wedi cael ei ddefnyddio fel capel ers blynyddoedd lawer. Cangen ydoedd o Gapel Waunfawr, ac fe'i codwyd ym 1864 er mwyn hwylustod y gymuned fach o ffermydd ar ochr ddeheuol Afon Gwyrfai a llethrau Moel Smytho. Cafwyd y tir yn rhodd gan Evan Owen, Pen'rallt. Cyn i'r capel bach gael ei godi, cynhelid ysgol Sul ym Mhen'rallt a chyn hynny yn ffermdy Gwredog Isaf.

Er mai prif ddiben oedd cynnal ysgol Sul yno ar gyfer plant ac oedolion, cynhelid gwasanaeth gyda phregeth unwaith y mis. Fis Hydref 1885, cafwyd arolwg gan swyddogion yr henaduriaeth, sef D. Davies (Tremlyn) a W. Gwenlyn Evans, a dyma eu hadroddiad:

Penrallt. Ffyddlondeb mewn man anghysbell. Y dosbarthiadau ieuengaf yn darllen yn bur wallus. Ymgais i'w gwella. Cyfarfod darllen gyda'r plant yn ystod yr wythnos. Atebion cyffredin yn y dosbarthiadau hynaf, a'r gwersi yn ddieithr iddynt. Dosbarth o rai mewn oed yn dysgu darllen. Wedi esgeuluso hynny pan yn ieuanc, ond yn meistroli eu tasg. Cedwir cyfrif o bresenoldeb pob aelod ar wahan.[1]

Enw pobl leol ar yr ysgoldy hwn oedd Capel bach y mynydd..[2]

Cyfeiriadau

  1. W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf. II (Caernarfon, 1913), tt.45, 59-60
  2. O.L. Owens yn Y Drych, 16.11.1916 t.2