Thomas Savin

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:02, 10 Hydref 2021 gan Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Thomas Savin (1826-23 July 1889) yn gyfrifol am lawer o'r rheilffyrdd a adeiladwyd yng Ngogledd Cymru. Yn fasnachwr o Drefonnen, Swydd Amwythig, roedd yn fasnachwr yng Nghroesoswallt cyn fentro i fyd adeiladu rheilffyrdd, ac er iddo gael ei wneud yn fethdalwr, parhaodd i weithredu fel peiriannydd a hyrwyddwr Rheilffordd Sir Gaernarfon, ar y cyd â Benjamin Piercy. Mae yna rywfaint o le i gredu iddo fod yn Gymro o ran iaith. Priododd un o ferched ei frawd John Savin (a oedd hefyd yn beiriannydd rheilffyrdd) y ficer a anfarwolwyd yn Un noson ola leuad, Caradog Prichard.