Tirfeddianwyr mwyaf Uwchgwyrfai yn yr 17g.

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:26, 27 Mawrth 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae rhestr o'r rhai a aseswyd fel y prif dirfeddianwyr yng nghwmwd Uwchgwyrfai yn y flwyddyn 1664 ar gael yn yr Archifdy Gwladol.[1]

Penodwyd gŵr o'r enw John Owen, bonheddwr, i gasglu treth a godwyd gan y Senedd ym 1663 yn Sir Gaernarfon, ac mae ei restr o'r rhai a oedd yn gorfod talu'r cyfryw dreth wedi goroesi ymysg archifau'r Trysorlys yn yr Archifdy Gwladol yn Llundain. Ymddengys fod un o brif dirfeddianwyr pob cwmwd yn gorfod llofnodi rhestr derfynnol John Owen - ac mae'n debygol mai hwy oedd yn gyfrifol am lunio'r rhestr ar gyfer eu cymydau eu hunain. Fe wnaeth Thomas Bulkeley lofnodi rhestr Uwchgwyrfai.

Prif dirfeddianwyr y cwmwd, mae'n ymddangos o'r rhestr, oedd Thomas Bulkeley, yswain, Dinas a John Glynn, yswain a'i fam, y ddau yn talu am Ystad Glynllifon. Rhaid oedd i Bulkeley a'r Glynniaid, y mab a'i fam, dalu £4 dros eu tir. Roedd 20 o dirfeddianwyr llai'n gorfod talu £1 yr un. Mae dau enw'n anarllenadwy ar y llawysgrif, ond mae'r lleill yn rhoi darlun gweddol gyflawn o ystadau mwyaf y cwmwd ar y pryd.[2] Dyma'r enwau darllenadwy:

Thomas Glynn, yswain,
George Twistleton, yswain, Lleuar Fawr
Richard Glynn, yswain, Elernion
Edmund Glynn, Bryn Gwydion
William Wynne, ?Pengwern
Richard ?Ellis, bon[heddwr]
[enw annarllenadwy]
Jane Glynn, gweddw Plas Newydd 
Jane Glynn, gweddw Clynnog Fawr
Hugh Lewis, bon
Owen Hughes, bon, o bosibl o Fodaden
John Williams, bon
Jane ...., gweddw ac etifeddes .... ap Richard
Randulph ....
Henry Glynn, Plas Nantlle, bon
Hugh Roberts a'i fab
Hugh Johnson, bon, [o blwyf Clynnog Fawr]
Lewis Williams
[enw annarllenadwy]
Robert Griffith, Llethr Ddu, Llanaelhaearn

Mae'n ddiddorol fod rhestr Uwchgwyrfai o dirfeddianwyr yn fwy na rhestr unrhyw gwmwd arall yn y sir, ond efallai y gellir cyfrif am hyn gan nad oedd yr un ystad yn tra-arglwyddiaethu dros y cwmwd fel y gwnaeth Ystad Cefnamwlch yng Nghymydmaen neu'r Penrhyn yng Nghwmwd Uchaf.

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwladol, E179/220/161.
  2. Mae'r enwau wedi eu copio o waith y diweddar Leonard Owen yn Archifdy Prifysgol Bangor, Llsgau Bangor 13491. Ychwanegwyd enw ystad neu eiddo ambell un o J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), passim.