Beirdd gwlad Dyffryn Nantlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:07, 13 Hydref 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Argraffwyd rhestr o ddeunaw o ‘’’feirdd Dyffryn Nantlle’’’ yn rhifyn 8 Chwefror 1888 o’r ‘’Genedl Gymreig’’.[1] Ceisiwyd eu rhoi yn nhrefn rhagoriaeth, ond wrth gwrs, gan mai ar ffurf llythyr at y golygydd yr ymddangosodd y rhestr, a hynny gan ohebydd anhysbys, sef “Y Pwyswr”. Serch hynny, a beth bynnag am y ffordd y sgoriodd Y Pwyswr y beirdd unigol, mae’n rhoi rhestr hynod o ddefnyddiol o’r prif feirdd gwlad Dyffryn Nantlle oedd yn eu bri ychydig cyn diwedd y 19g.

Dyma sut mae llythyr Y Pwyswr yn cychwyn:

TAFOLIAD BEIRDD DYFFRYN NANTLLE
SYR,-Mewn trefn i ni allu gwneyd chwareu teg â phob un ohonynt, yr ydym yn nodi eu graddau mewn pedwar peth gwahanol, gan eu bod oll yn rhagori yn y naill neu'r llall o'r pethau hyn. Y pedwar peth hynny yw - Awen, Barn, Dysg, a Chynghanedd. Cymerwn ugain yn safon gyda phob un ohonynt; yna cyfrifwn yr oll gyda'u gilydd, heb adnabod neb ohonynt yn ôl y cnawd.

Ar ôl rhestru’r beirdd a’u sgoriau – yn ôl ei farn o – gorffenodd y llythyrwr ei lythyr fel a ganlyn:

Gyda'ch caniatâd, Mr Gol., yr ydym yn bwriadu tafoli cerddorion y dyffryn y tro nesaf; ac yna y llenorion a'i areithwyr. Y PWYSWR.

Gwelir yn y ddelwedd a atgynhyrchir yma'r sgoriau unigol. Mae erthyglau am y beirdd unigol a restrir isod i’w cael - neu mi fyddant ar gael - ar y wefan hon.

Llythyr y Pwyswr

Gellir tybio y byddai rhestr mor fanwl - a dadleuol efallai - yn esgor ar ohebiaeth danbaid yn rhifynnau canlynol y papur newydd, ond hyd y gellir darganfod, nid oedd unrhyw ymateb yn y rhifynnau nesaf. Dichon felly fod y gwerthusiad yn weddol agos i'w le. Cadarnhâd o'r rhagdybiaeth hon yw'r ffaith mai pedair o'r chwech cyntaf yn y rhestr wedi hawlio erthyglau ymysg y 1450 o erthyglau cynharaf yng Nghof y Cwmwd, eithr na chafwyd neb yr ysbrydoliaeth (na'r wybodaeth) i lunio erthyglau erthyglau ar y deuddeg bardd isaf ar y rhestr - rhywbeth a fydd yn cael sylw wedi hyn!

Rhaid hefyd amau mai dim ond beirdd Dyffryn Nantlle oedd yn byw ym 1888 sydd yma. Ni ddylid anghofio am feirdd cynharach o sylwedd, megis David Jones (Dewi Arfon) ac Ebeneser Thomas (Eben Fardd); nac ychwaith y blodeuo rhyfeddol yn nhraddodiad y dyffryn gyda gwaith rhai fel Robert Williams Parry, T. H. Parry-Williams, Mathonwy Hughes, Gwilym R. Jones ac yn y blaen.

Cyfeiriadau

  1. op.cit., t.7