Pont Dafarn Dudur

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:14, 24 Gorffennaf 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Pont Dafarn Dudur yn cael ei henwi ar fapiau Ordnans o 1901 ymlaen, wrth fynedfa fferm Tafarn Dudur ar yr hen lôn bost rhwng Caernarfon a Phen-y-groes. Mae'n croesi nant sydd yn codi yng nghorsydd Uwchlaw'r-rhos ac yn llifo i Afon Llifon ger Coed Tŷn-rhos, un o blanhigfeydd Parc Glynllifon. Prin y bydd teithiwr yn sylwi ar y bont wrth fynd drosti, gan ei bod yn fwy o gwlfert nag o bont sylweddol.