Tafarn y Ffort

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:50, 22 Chwefror 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Tafarn y Ffort (neu “Fort Tavern”) oedd un o bedair tafarn ar brif stryd pentref Llanllyfni ers talwm. Safai nid nepell o swyddfa bost y pentref ar brif stryd pentref Llanllyfni.

'Roedd y dafarn yn agored erbyn 1841 pan geir manylion am y tafarnwr yn y Cyfrifiad; William Roberts, 25 oed oedd yn ei chadw yn ogystal â gweithio fel gof. Ym 1851, William Pugh, gŵr 45 oed, oedd yn cadw’r lle, a hynny’n llawn amser mae’n debyg, gan ei fod yn cael ei ddisgrifio fel “publican”. Am ryw reswm, nid yw’r dafarn yn cael ei nodi yn nogfennau Cyfrifiadau 1861 ac 1871, ond erbyn 1881, Laura Parry oedd yn ei chadw, hithau’n 41 oed; a hi oedd yno ym 1891 hefyd. Erbyn 1901, y landlord oedd John M. Evans, saer coed 35 oed.[1]

Pan ddaeth yr amser i ynadon y sir adnewyddu trwyddedau tafarndai fis Mawrth 1909, yr oedd Tafarn Barmouth wedi cau, a dywedwyd yn y llys mai tair tafarn oedd yn y pentref, sef Tafarn y King's Head, y Quarryman's Arms a Thafarn y Ffort. Yr oedd dyddiau’r Ffort wedi eu rhifo, fodd bynnag.

Ceir darlun o’r dafarn ym 1909 mewn adroddiad am y llys trwyddedu a gyhoeddwyd yn y ‘’North Wales Express’’. Yr oedd yr ynadon o’r farn nad oedd angen yr holl dafarnau mewn pentref bychan. Gofynnodd Mr Allanson, twrnai landlord y Ffort, am i’r ynadon adnewyddu’r drwydded ond yr oedd Arolygydd yr Heddlu, Arolygydd Griffith, o’r farn fod gormod o dai tafarnau yn y pentref, ac fe alwodd twrnai’r Heddlu, Mr Jenkins, weinidog lleol, y Parch. G. Ceidiog Roberts, i roi tystiolaeth. Yr oedd yntau o’r un farn, a daeth yn amlwg fod yr ynadon eisoes wedi penderfynu ceisio cau rhai tafarndai. Doedd hi ddim syndod, felly, fod cais y Ffort, fel tafarn leiaf y pentref, am adnewyddu’r drwydded gael ei wrthod. Cyfeiriodd y cyn-drwyddedai at y modd y gallai’r landlord sicrhau iawndal ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno, mae’n ymddangos bod iawndal wedi ei roi am iddo golli ei fusnes. A dyna ddiwedd y Ffort fel tafarn.[2] Erbyn Cyfrifiad 1911, roedd yr adeilad yn dŷ cyffredin ac Evan Morris, chwarelwr 38 oed a’i deulu oedd yn byw yno.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni 1841-1901
  2. ’’North Wales Express’’, 12.3.1909, t.3
  3. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1911