John Rowlands

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:44, 14 Ebrill 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Gŵr o Drawsfynydd yn wreiddiol oedd yr Athro Dr John Rowlands (1938-2015), nofelydd a beirniad llenyddol. Priododd â merch gyda chysylltiadau cryf ag Uwchgwyrfai, ac am gyfnod tua 1980, ac wedyn ar ôl iddo ymddeol fel Athro yn Adran y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth, bu'n byw hyd ei farwolaeth yn Y Goeden Eirin, tŷ ar fferm Hendre (Llanwnda) yn y Dolydd.

Cyhoeddodd saith nofel:

  • Lle Bo'r Gwenyn (1960)
  • Yn Ôl I'w Teyrnasoedd (1963)
  • Ienctid Yw 'Mhechod (1965)
  • Llawer Is Na'r Angylion (1968)
  • Bydded Tywyllwch (1969)
  • Arch Ym Mhrâg (1972)
  • Tician, Tician (1978)

Hefyd, roedd yn feirniad llenyddol cynhyrchiol iawn, yn olygydd ar sawl cyhoeddiad ac yn adolygydd cyson. Bu'n feirniad cyson ar y prif gystadlaethau yn yr Eisteddfod Genedlaethol.[1]

Roedd John Rowlands yn gerddor amatur galluog iawn, ac yn arbenigwr ar fwydydd a gwinoedd. Bu'n arddangos coginio yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn adolygu bwytai i gwmni enwog. Gyda'i wraig, llwyddodd i redeg bwyty a gwesty moethus o safon uchel am nifer o flynyddoedd yn y Dolydd.

Fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr.

Cyfeiriadau

  1. Wicipedia, erthygl ar John Rowlands [1], cyrchwyd 27.02.2020