Melin y Plant

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:08, 19 Mawrth 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Melin y Plant ym Mharc Glynllifon yn furddun a godwyd fel ffoledd, neu ffug-adeilad, lle gallai pum plentyn Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough, chwarae. Roedd groto a rhaeadr fach yno, ac mae olion eraill yn awgrymu y bu olwyn ddŵr yno hefyd ar un adeg. ref>CADW, Cofrestr o Dirluniau, Parciau a Gerddi....Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn, (Caerdydd, 1998), t.210</ref> Er i waith adfer gael ei wneud ar y ffoledd tua 1990, mae wedi dirywio'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ceir hyd i Felin y Plant wrth ochr y llwybr troed ar lan ddeheuol Afon Llifon yn y Cwm Coed.

Cyfeiriadau