Express Motors
Cwmni bysiau a redai o Gaernarfon i gyfeiriad Y Fron oedd Express Motors. Fe'i alwyd y bysiau hyn yn "fysiau Robin Huw" ar dafod leferydd. Yn ystod y 1970au, rhedai'r cwmni hen fws Leyland coch, yn debyg i'r bysiau unllawr Crosville gynt. Fodd bynnag, fe werthwyd y cwmni i gwmni arall lleol, sef Bysiau Seren Arian neu "Silver Star".
Maes o law prynwyd yr enw gan y perchnogion presennol, ac o dipyn i beth ehangwyd y teithiau, yn gyntaf i leoedd eraill cyfagos megis Nantlle a Dinas Dinlle, ond yn fwy diweddar (ar ôl agor depo ym Mlaenau Ffestiniog) mor bell ag Aberystwyth, Llanrwst, Llandudno, Porthmadog a'r Bermo.
Yn wreiddiol defnyddid lliwiau gwyrddlas a gwyn ar fysiau Express ond ar ôl i gwmni Arriva ddod i'r ardal gyda'i lifrai gwyrddlas, newidiwyd lliwiau Express i felyn a gwyn.
Ataliwyd pob gwasanaeth cwmni Express ar ddiwedd 2017.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma