Pont Plas Newydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:12, 13 Ionawr 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Pont Plas Newydd yw'r bont ar ffordd fawr Pwllheli dros Afon Llifon, nid nepell o blasty Plas Newydd ym mhlwyf Llandwrog. Weithiau, fe gyfeiriwyd ati fel "Pont Llifon".[1] Codwyd pont newydd sbon yno tua 1980 pan ledwyd y ffordd, ond bu pont yno ers llawer dydd.

Mae'n bosibl mai'r bont gyntaf i'w chodi oedd yr un a wnaed yn newydd ym 1776-7 ar orchymyn y Llys Chwater ar y ffordd dyrpeg. Pont dri bwa, un mawr 21' ar draws, a dau fach 10'6" ar draws, oedd y bont honno. Yr adeiladwyr oedd Francis Roberts, Coch-y-big, Clynnog Fawr, iwmon; Meyrick Roberts, Brysgyni, Clynnog fawr, saer coed; a Robert Roberts, Clynnog Fawr, saer coed. Roeddent hefyd i godi pont dros Afon Weddus, Clynnog Fawr, a chost y ddwy bont oedd £200 am Bont Llifon a £100 am Bont Weddus.[2]

Ym 1836, hysbysodd un John Parry ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Hen Dyrpeg Sir Gaernarfon, a oedd yn gyfrifol am y ffordd dyrpeg, ei fod am gwyno wrth yr ynadon fod y bont yn "shocking dangerous", yn arbennig y darn o'r ffordd ar ochr Caernarfon i'r bont. Cafodd James Smith, Caernarfon, ymgymerwr ffyrdd, y gwaith o adfer cyflwr y bont a'r ffordd am y gost o £196. Dichon, fodd bynnag, nad oedd ei waith o'r safon uchaf, gan fod syrfewr y sir, John Lloyd, wedi dylunio pont letach ym 1842, gyda thri bwa iddi. Gosodwyd y gwaith i Lewis Williams, Caernarfon.[3]


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XPlansB/172
  2. Archifdy Caernarfon, XPlansB/169
  3. Archifdy Caernarfon, XPlansB/83