Hugh Beaver Roberts

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:10, 9 Ionawr 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Hugh Beaver Roberts (1820-1903) yn dwrnai gyda busnes ym Mangor; er iddo gael ei eni yng Nghilcain, Sir y Fflint,cartref ei dad, Hugh Roberts, oedd Glan-y-Fenai, Llandegfan.[1] Priododd Harriet Wyatt (ganed 1822), merch James Wyatt, Plas Gwynant, Llandygái ym 1848. Yn ddyn teulu, bu'n byw yn Wellfield House, Bangor gyda'i wraig, tri mab a merch, bedair morwyn ac athrawes breifat ar gyfer y plant.[2] Erbyn 1871, roedd wedi symud gyda'i wraig a'i ferch i Milverton, Swydd Warwig, er ei fod yn dal yn gofrestrydd Llys Profiant Bangor. Erbyn 1881, roedd yn ofynnol iddo fyw bywyd oddi cartref, gan aros mewn llety ym Marylebone, Llundain.[3] Bu farw ei wraig Harriet ym 1899.[4] Erbyn 1901 roedd yn lletya yn Green Bank, Bangor.[5] Fe'i claddwyd ym mynwent Llandegfan, nid nepell o gartref ei deulu.[6]

Bu'n ynad heddwch mewn tair sir, ac yn ddirpry arglwydd raglaw yn Sir Feirionnydd.[7]

Daeth yn berchennog ar Ystad Croesor, gan ddatblygu'r pentref, ac adeiladu Tramffordd Croesor i gludo llechi o'i chwarel ei hun a chwareli eraill y dyffryn.[8]

Fel dyn busnes a chyfalafwr, roedd yn edrych am gyfleoedd i fuddsoddi, a chymerodd ddiddordeb yn Chwarel Braich ar lethrau Moel Tryfan ym 1868, gan ei rhedeg wedyn dan enw Cwmni Chwarel Llechi Braich. Roedd yn un o gyfarwyddwyr Cwmni Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru, oherwydd (mae'n debyg) ei awydd i gael gwell ffordd o symud llechi o'i chwarel at y farchnad. Roedd ei brofiad gyda Thramffordd Croesor, a'i gysylltiad â'r rheilffordd gul a oedd wedi cyrraedd Bryngwyn, yn help iddo weld potensial am gysylltu Chwarel Braich â rhwydwaith tramffyrdd ucheldir Uwchgwyrfai.

Cyfeiriadau

  1. ↑ Cyfarwyddiadur Kelly, 1901
  2. ↑ Cyrfifiad Bangor 1861
  3. ↑ Cyfrifiad St Marylebone, Llundain, 1881,1891
  4. ↑ J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.134
  5. ↑ Cyfrifiad Bangor 1901
  6. ↑ Archifdy Ynys Môn, Cofrestr plwyf Llandegfan, 1903
  7. ↑ Cyfarwyddiadur Kelly, 1901
  8. ↑ Gwefan Heneb, [1], cyrchwyd 7.1.2022