Cwm Coryn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:55, 9 Ebrill 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Capel Cwm Coryn

Mae Cwm Coryn yn un o gymoedd mwyaf diarffordd Uwchgwyrfai. Nid yw'r ffordd o ganol pentref Llanaelhaearn i fyny'r cwm yn arwain i unman y tu draw i'r cwm ei hun ac felly ychydig sydd yn ei thramwyo. Rhed y cwm ar hyd ochr ddeheuol Gurn Ddu a Moel Bronmiod. Prif ffermydd y cwm yw Penllechog, Llethr Ddu, Fferm Cwm Coryn, Cae'r Wrach a Bronmiod. Bu capel yn y cwm, tua milltir o'r pentref, i wasanaethu'r ychydig ffermydd sydd yno.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Map Ordnans