Llwyn-y-gwalch

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:37, 9 Gorffennaf 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Saif Llwyn-y-gwalch ym mhlwyf Llandwrog, ger Afon Llifon. Dyma un o gartrefi mân foneddigion Uwchgwyrfai oedd yn ddisgynyddion o'r un cyff â theulu Glynllifon, sef hil Cilmin Droed-ddu. Yn ôl yr hen achau, disgynnodd y teulu trwy Madog ab Ednowain, brawd sylfaenydd llinach Glynllifon, sef Ystrwyth ab Ednowain. Mab Madog oedd Morgan ap Madog, ac fe'i dilynwyd gan Gruffydd, Heilyn, Iorwerth Goch, Einion, Ednyfed a Hywel Ddu o genhedlaeth i genhedlaeth. Mab Hywel Ddu oedd Llywelyn ap Hywel Ddu, a gadawodd hwnnw ei eiddo i'w unig blentyn, Nest ferch Llywelyn. Priododd honno Ifan ap Llywelyn o Drefeilir, Ynys Môn, a chawsant nifer o blant. Gadawyd y brif ystad i'w mab hynaf, Rhys ab Ifan o Drefeilir; eiddo arall, Prysiorwerth Ucha, i'r ail fab, Maurice; a gadawyd Prysiorweth Isaf i Syr William, oedd yn offeiriad. Cafodd fab arall, Siencyn, eiddo o'r enw Carregonnen; a mab arall, Robert, Henblas. Y mab ieuengaf ond un, John, etifeddodd Bodwrdin. Roedd yr eiddo yma i gyd yn Sir Fôn, ac arwyddocaol efallai oedd y ffaith mai'r mab ieuengaf, Gruffydd, etifeddodd yr eiddo oedd gynt yn eiddo i'w fam, sef Llwyn-y-gwalch - ac efallai y gellid casglu o hyn nad oedd yr eiddo mor fawr a phwysig â holl diroedd eraill Ystad Trefeilir. Methodd Gruffydd â sefydlu llinach newydd yn Llwyn-y-gwalch oherwydd iddo farw'n ddi-blant. Dichon i Gruffydd farw yn ail hanner y 16g., gan adael Llwyn-y-gwalch i'w frawd hynaf, sef Rhys ab Ifan o Drefeilir. Priododd mab Rhys, John ap Rhys â Jonet, ferch Robert ap Meredydd o Glynllifon, gan greu undod rhwng dwy gangen o gyff Cilmin.[1]

Ers tair canrif a mwy, felly, mae Llwyn-y-gwalch wedi bod yn ffermdy. Fe saif ar ochr hen lôn geffyl (sydd bellach yn llwybr cyhoeddus) a ddefnyddid i gludo llechi o Fynydd Cilgwyn i lawr at y cychod yn Y Foryd; a hynny ger y fan lle croesai'r hen ffordd y ffordd dyrpeg rhwng y Dolydd a'r Groeslon. Roedd yn brif fferm ystâd fechan ac iddi felin, sef Melin Llwyn-y-gwalch.[2]

Mae sôn am Rowland Morgan, gŵwr bonheddig, yn byw yno ym mis Awst 1653.[3] Roedd ei fab, John Rowland, yn achosi cryn drafferth i'r ynad lleol, Edmund Glynne yn ystod y 1650au, a sawl gwaith ceir sôn amdano ymysg papurau'r Llys Chwaretre yn aflonyddu'r hwn neu'r llall. Y cofnod cyntaf am fodolaeth y felin, efallai, yw gweithred dyddiedig 1695, pan oedd y felin yn eiddo i John Rowland, gŵr bonheddig o Fangor, ac yn fab i Rowland Morgan, Llwyn-y-gwalch.[4]

Sonnir am y felin wedyn ym 1717 pan oedd Grace, aeres Llwyn-y-gwalch yn weddw a Morgan Jones, mab hi a'i gŵr John Rowlands o Faenol Bangor, yn berchen ar felin yn Llwyn-y-gwalch. Erbyn 1739, roedd Griffith Morris yn gweithio iddynt fel melinydd. Ym 1769, ceir sôn mewn dogfen setliad wedi priodas am Lwyn-y-gwalch ynghyd â'r felin berthynol ac hefyd Gallt-y-pill (fferm nid nepell i ffwrdd) ymysg eiddo Griffith Jones, sgweiar o Fryntirion, Bangor, disgynnydd i'r Grace uchod; mae'n bur amlwg mai wedi ei osod i denantiaid oedd Llwyn-y-gwalch. Ni fu Griffith Jones fyw am hir wedi iddo briodi, fodd bynnag, ac erbyn 1775 roedd yr eiddo yn pasio i ddwylo chwaer Griffith, Grace Jonbes arall - er bod ei wraig Margaret Jones yn dal yn fyw.[5] Bu'n eiddo i'r teulu am flynyddoedd nes marw Thomas Jones ym 1823.

Am gyfnod byr, tua 1813 hyd 1818 efallai, dyma oedd cartref plentyndod Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon a anwyd ym Modgarad, ond a symudodd gyda'i deulu i Dyddyn Tudur ger Plas Glynllifon maes o law.[6]

Ym 1889, fe brynwyd Llwyn-y-gwalch gan Frederick G. Wynn, sgweiar Glynllifon, am £2700. Yr oedd y fferm y pryd hynny'n 55 erw o ran arwynebedd.[7]

Chwedl am yr enw

Dywedir stori yn yr ardal i esbonio'r enw, sef bod tirfeddiannwr lleol a arferai fyw yn Grugan Wen farw ac am adael tir i'w chwe mab, gan ddyfarnu yn ei ewyllys fod ei fab Iago i gael cae, Dafydd i gael tyddyn, Siencyn i gael talar, Morgan i gael melin, ac Ifan i gael hafod gyda'r a'r gwalch (sef hogyn drygiog, ei fab arall, nad oedd yn ei gymeradwyo) i dderbyn llwyn. Mae tyddyn Cae Iago, fferm a thir Melin Forgan, fferm Hafod Ifan, fferm Tyddyn Dafydd a thir (a fu unwaith yn dyddyn ar wahân) Talar Siencyn i gyd yn ffinio ar dir Llwyn-y-gwalch heddiw. Mae Grugan Wen hefyd nid nepell o'r chwe daliad tir hyn.[8]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt.1, 67,229
  2. W. Gilbert Williams, Yr Herald Cymraeg, 1938.
  3. Archifdy Caernarfon, XQS/1653+54/39
  4. LLGC, Cofnodion Ystâd Coed Coch a Throfarth, 1585; Cofnodion Ystâd Hafodgaregog a Threfan, 326.
  5. Archifdy Caernarfon, XM543/3,4
  6. Geraint Jones, Gŵr Hynod Uwchlaw'rffynnon, (Llanrwts, 2008), t.8
  7. Archifdy Caernarfon, XD2/6673
  8. Hanes y Groeslon, (2000), t.15.