William Hughes, Bryn Beddau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:28, 6 Ebrill 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd William Hughes, Brynbeddau, (1767-1846) yn un o brif ddylanwadau yn nhwf enwad yr Annibynwyr yn Sir Gaernarfon.

Ffermwr oedd William Hughes wrth ei alwedigaeth, a'i fferm oedd Bryn Beddau, ar y llethrau uwchben Dyffryn Gwyrfai ym mhlwyf Llanwnda. Ymunodd yn ifanc ag achos yr Annibynwyr yng Nghaernarfon, ac erbyn iddo fod yn 21 fe ddechreuodd bregethu. Ym 1795 fe gafodd gais gan weinidogion Annibynnol y Sir i weithredu fel efengylwr i ymestyn y rhwydwaith o achosion Annibynnol, gwaith yr oedd wrthi'n ei gyflawni am bymtheng mlynedd - ac yntau'n dal i ffermio. I ddechrau, canolbwyntiodd ar Ddyffryn Conwy, gan sefydlu achosion llwyddiannus yn Nhrefriw, Henryd a Dwygyfylchi ymysg lleoedd eraill. Ar ol pum mlynedd trôdd ei sylw at Eifionydd ac Uwchgwyrfai lle'r oedd yn gyfangwbl, neu'n rannol gyfrifol am sefydlu achosion Saron, Tal-y-sarn, Rhoslan, Pentrefelin a Trefor.

I'w barhau'