Moel Rudd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:43, 4 Ebrill 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Y garnedd ar ben Moel Rudd

Mae Moel Rudd yn gopa ar ystlys ddeheuol Mynydd Mawr sydd yn edrych dros Lyn Cwellyn. Saif i'r gogledd o Fwlch-y-moch. Mae'r copa yn 573 metr uwchben lefel y môr. Mae hefyd yn sefyll ar ben dwyreiniol Craig y Bera. Ychydig o dramwyo sydd drosti a dyma, efallai, un o'r lleoedd mwyaf diarffordd yn holl ucheldir Uwchgwyrfai.

Ar lethrau gogleddol Moel Rudd, sef ar ochr Cwm Planwydd, mae olion hen gorlannau defaid a chwt bugail.[1]

Yn aml ar fapiau'r ardal gwelir yr enw wedi ei sillafu "Foel Rudd" - sef "Y foel rudd". Mae'n debyg bod yr enw yn cyfeirio at y graig ar y mynydd, sydd â lliw cochfrown iddi, yn tystio i'r mwynau sydd ynddi.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Coflein