Henry Kennedy

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:00, 23 Mawrth 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Henry Kennedy (1814-1896) oedd y pensaer mwyaf cynhyrchiol a weithiai ar eglwysi esgobaeth Bangor yng nghanol y 19g., gan atgyweirio, ymestyn neu ail-adeiladu tua 80 ohonynt dros gyfnod o hanner can mlynedd. Cafodd ei eni yn Llundain, ond yn ystod y 1840au cynnar fe symudodd i Fangor, gan sefydlu cwmni o benseiri yno, gyda'i swyddfa am amser maith ar y Stryd Fawr.[1] Er bod ganddo dau bartner ar adegau gwahanol, fo ei hun a ymgymerai â mwyaf helaeth o'r gwaith yr esgobaeth, yn cynnwys gosod to ar ran o'r Eglwys Gadeiriol - gwaith a feirniadwyd yn hallt gan y pensaer eglwysig enwog, Sir Gilbert Scott, oherwydd iddo ddinistrio nenfwd hanesyddol.

Yng nghyd-destun Uwchgwyrfai, ei brif waith oedd codi eglwys newydd ar gyfer pentref Llandwrog yn unol â dymuniadau Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough, tua 1859-61.[2] Cyn hynny, ym 1853, roedd Newborough wedi bod yn datblygu cynlluniau ar gyfer eglwys ym Mharc Glynllifon fel capel preifat gyda ffenestri mawr a chladdgelloedd tanddaearol i'r teulu am gost o £7000,[3] ond ni wireddwyd y cynlluniau hynny.[4] Yr oedd Kennedy hefyd yn gyfrifol ym 1853 am gynllunio adeiladau Ysgol Llandwrog, yr ysgol eglwys lleol.[5] Roedd Kennedy'n fwy na phensaer brics a mortar yn unig - mae dogfennau ar gael sydd yn dangos mai ef, er enghraifft, oedd yn gyfrifol am ddylunio desgiau'r plant yn yr ysgol.[6]

Defnyddiodd Newborough fel y pensaer ar gyfer ail-adeiladu Abaty Maenan, ei eiddo yn Nyffryn Conwy;[7] ac yr oedd ei fab, Frederick George Wynn, yn gleient iddo hefyd - roedd Kennedy'n gyfrifol am ailadeiladu rhan o wal ddwyreiniol Plas Glynllifon a'r tŷ gwydr sydd ynghlwm ag ef, mor ddiweddar â 1889.[8]

Ym 1853 gwnaeth Kennedy gais am y swydd o Arolygydd y SIr dan y Sesiwn Chwarter, ond hyd y gwyddys ni fu'n llwyddiannus.[9]

Bu farw ym 1896 (er i rai ffynonellau ddweud 1898). Y farn cyffredinol am ei waith oedd ei fod yn ddigon grefftus a boddhaol er nad oedd yn ddisglair fel arfer. Ceir mwy o fanylion am ei waith y tu hwnt i Uwchgwyrfai ar safleoedd Wicipedia, ac yn y Dictionary of Scottish Architects. Nid yw'n amlwg pam ei fod yn ymddangos yn y fan honno, ond dichon felly fod ganddo wreiddiau teuluol yn Yr Alban.[10]

Cyfeiriadau

  1. Erthygl Wicipedia am Kennedy, [1], cyrchwyd 23.3.2021
  2. Archifdy Caernarfon, XD2/14261
  3. Archifdy Caernarfon, XD2/14255-6
  4. Archifdy Caernarfon, XD2A/754-761
  5. Archifdy Caernarfon, XD2A/872
  6. Archifdy Caernarfon, XD2A/871
  7. Archifdy Caernarfon, XD2/22297 et seq.
  8. Archifdy Caernarfon, XD2A/1579
  9. Archifdy Caernarfon, XD2/24256
  10. Dictionary of Scottish Architects, [2], cyrchwyd 23.3.2021